#                                                                                      

Y Pwyllgor Deisebau | 21 Mai 2019
 Petitions Committee | 21 Mai 2019
 
 
 ,Papur Briffio ar gyfer y Pwyllgor Deisebau  

 

 

 


Papur briffio gan Ymchwil y Senedd: Cynllun gwisgoedd ysgol ail-law i blant

Rhif y ddeiseb: P-05-877

Teitl y ddeiseb: Cynllun gwisgoedd ysgol ail-law i blant

Testun y ddeiseb:

Hoffem ni, plant Ysgol Gynradd Monnow yng Nghasnewydd, weld cynllun gwisgoedd ysgol ail-law yn cael ei sefydlu ym mhob dinas yng Nghymru. Dylai’r cynllun ddarparu gwisgoedd ysgol, esgidiau ac esgidiau rhedeg ar gyfer pob oedran. Byddai hyn yn sicrhau bod gan bob plentyn fynediad at wisgoedd ysgol fforddiadwy. Dylai teuluoedd sy’n cael prydau ysgol am ddim gael blaenoriaeth.

1.        Sefyllfa gyfreithiol a pholisi

Mae llythyr y Gweinidog Addysg yn amlygu nad oes deddfwriaeth yng Nghymru ar hyn o bryd ynglŷn â gwisgo gwisg ysgol. Mae hwn yn fater sy’n rhan o ‘ymddygiad ysgol a gynhelir’, ac felly cyfrifoldeb corff llywodraethu’r ysgol ydyw. Mae’n ofynnol i’r corff llywodraethu gynnal yr ysgol gyda golwg ar hyrwyddo safonau uchel o gyflawniad addysgol, a all gynnwys meddu ar bolisi gwisg ysgol, yn ôl y Gweinidog.

Mae’r Gweinidog yn dweud bod Llywodraeth Cymru ‘yn annog ysgolion yn frwd i roi polisi gwisg ysgol ar waith gan fod cymaint o fanteision o wneud hynny’. Mae hi hefyd yn dweud bod Llywodraeth Cymru yn disgwyl i gyrff llywodraethu ystyried argaeledd eang gwisg ysgol a goblygiadau’r gost i deuluoedd.

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllawiau anstatudol i ysgolion a chyrff llywodraethu ar bolisïau gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion. Cyhoeddwyd y fersiwn bresennol yn 2011, er bod Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori’n ddiweddar ar ganllawiau newydd, sydd i ddod i rym o fis Medi 2019. Yn wahanol i’r canllawiau presennol, bydd y rhain yn ganllawiau statudol.

2.        Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Wrth lansio ymgynghoriad ar ganllawiau statudol drafft newydd ym mis Tachwedd 2018, dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, ei bod am sefydlu dull mwy cyson o ymdrin â fforddiadwyedd. Roedd hwn yn un o’r rhesymau pam y bydd y canllawiau newydd yn rhai statudol, yn wahanol i’r fersiwn gyfredol. Dywedodd y Gweinidog:

Mae’r ymgynghoriad yn canolbwyntio ar fforddiadwyedd ac yn mynd i’r afael â nifer o faterion y dylid eu hystyried wrth ddatblygu polisïau gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion, fel eitemau gwisg niwtral o ran y rhywiau a hyblygrwydd yn ystod amodau tywydd eithafol.

Fel y mae llythyr y Gweinidog yn amlinellu, mae’r canllawiau drafft newydd yn cynnwys yr enghreifftiau a ganlyn o arfer da:

§    Hyrwyddo ac annog stondinau gwisg ysgol o ansawdd da ail-law mewn nosweithiau rhieni neu ddigwyddiadau eraill.

§    Benthyca eitemau ail-law o’r wisg ysgol i ddisgyblion, a sefydlu ystafell adnoddau lle gall disgyblion gael mynediad at y rhain yn ddi-sylw, i osgoi stigmateiddio

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi sefydlu cynllun cymorth ariannol newydd, y Grant Datblygu Disgyblion - Mynediad[1], a fydd yn helpu aelwydydd cymwys â chostau ysgol amrywiol, gan gynnwys â chostau gwisg ysgol. Sefydlwyd y Grant Datblygu Disgyblion - Mynediad ar ôl i Lywodraeth Cymru ddod â’r Grant Gwisg Ysgol blaenorol i ben yn rownd pennu cyllideb 2018-19 (gweler adran 4, ‘Camau gweithredu’r Cynulliad’).

Roedd cyllideb flynyddol o £700,000 ar gyfer y Grant Gwisg Ysgol blaenorol, ac roedd yn darparu £105 i bob cartref disgybl a oedd yn gymwys am brydau ysgol am ddim (eFSM) wrth iddynt drosglwyddo i’r ysgol uwchradd (Blwyddyn 7), i helpu i dalu costau gwisg ysgol. Penderfynodd Llywodraeth Cymru yn ei chyllideb 2018-19 i ddod â’r grant hwn i ben ac i sicrhau bod yr arian ar gael i ailflaenoriaethu amrywiol grantiau llywodraeth leol ar gyfer cyllid cyffredinol i awdurdodau lleol i gefnogi cyllidebau ysgolion.

Wedi hynny, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg, ym mis Mehefin 2018, y byddai cronfa’r Grant Datblygu Disgyblion - Mynediad ehangach newydd, a fyddai’n disodli’r Grant Gwisg Ysgol, ar gael ac y byddai’n darparu rhagor o hyblygrwydd o ran yr hyn y gallai aelwydydd ddefnyddio’r arian ar ei gyfer. Wedi’i gyflwyno ym mis Medi 2018 ar gost o £1.7 miliwn, mae’n werth rhagor o bob cartref (£125 yn hytrach na £105) ac mae’n cefnogi nifer fwy o ddisgyblion. Mae Llywodraeth Cymru wedi canolbwyntio’r grant ar y pwynt cychwyn addysg gynradd (dosbarth Derbyn) ynghyd â’r pwynt trosglwyddo i’r ysgol uwchradd (Blwyddyn 7).

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’n ddiweddar estyniad pellach i’r Grant Datblygu Disgyblion – Mynediad, i gynnwys disgyblion sy’n dechrau Blwyddyn 3 a Blwyddyn 10 (y ddau bwynt pontio cyfnod allweddol arall) a Phlant sy’n Derbyn Gofal ym mhob grŵp blwyddyn. I ariannu hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £3.4 miliwn ar ben y £1.7 miliwn presennol i ddod â chost y Grant Datblygu Disgyblion - Mynediad yn gyfanswm o fwy na £5 miliwn.

Mae lefel y gefnogaeth felly’n cynyddu unwaith eto, i £200 i bob plentyn cymwys, ac mae’r defnydd cymwys o’r arian yn cael ei ymestyn ymhellach i, nid yn unig i gynnwys costau gwisgoedd ysgol a chostau eraill yn yr ysgol, ond hefyd i gynnwys lleoliadau nad ydynt yn ystafelloedd dosbarth, fel clybiau ieuenctid. Awdurdodau lleol a fydd yn gweinyddu’r cynllun.

Mae llythyr y Gweinidog i’r Pwyllgor hwn, yn ymateb i’r ddeiseb, hefyd yn rhoi manylion y cyhoeddiad hwn, fel y gwnaeth ei datganiad yn y Cyfarfod Llawn ar 30 Ebrill 2019.

3.        Camau gweithredu’r Cynulliad

Fel y cyfeiriwyd uchod, dilynodd camau gweithredu Llywodraeth Cymru o ran y Grant Datblygu Disgyblion – Mynediad feirniadaeth a gafodd gan randdeiliaid a’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch ei phenderfyniad yng nghyllideb 2018-19 i derfynu’r Grant Gwisg Ysgol.

Ym mis Ebrill 2018, ysgrifennodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Gweinidog Addysg, i fynegi pryder y gallai hyn ‘arwain at golli cymorth ariannol pwysig i deuluoedd ar incwm isel wrth brynu gwisg ysgol’ a gofyn sawl cwestiwn am y broses yr oedd Llywodraeth Cymru wedi’i dilyn wrth benderfynu terfynu’r Grant Gwisg Ysgol blaenorol.

Roedd ymateb y Gweinidog (mis Mai 2018) yn amlinellu ei bwriad i gyflwyno cynllun gwell i gymryd lle’r hen Grant Gwisg Ysgol. Yn dilyn hyn cafwyd datganiad gan Kirsty Williams, ar 7 Mehefin 2018, a chyhoeddiadau dilynol (a drafodir yn adran 2 uchod) wedyn.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.

 



[1] Gelwir y cynllun yn Grant Datblygu Disgyblion - Mynediad gan ei fod wedi’i dargedu at yr un grŵp o ddisgyblion, sef disgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim (eFSM), â’r Grant Datblygu Disgyblion (PDG), sydd ers 2012 wedi darparu arian ychwanegol i ysgolion gefnogi addysg disgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim, plant sy’n derbyn gofal a phlant mabwysiedig.